c2 Brenhinoedd 22:1—23:30; 2 Cronicl 34:1—35:27

Zephaniah 1

1Dyma'r neges roddodd yr Arglwydd i Seffaneia. Roedd Seffaneia yn fab i Cwshi, mab Gedaleia, mab Amareia, mab Heseceia.
1:1 Heseceia Brenin Jwda o 716 i 687 CC
Cafodd y neges pan oedd Joseia fab Amon yn frenin ar Jwda.
1:1 Joseia … frenin ar Jwda o 640 i 609 CC
,
c

Duw yn barnu

2“Dw i am glirio popeth yn llwyr oddi ar y ddaear,”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
3“Dw i am glirio pobl ac anifeiliaid.
Dw i am glirio adar a physgod
(yr holl ddelwau a'r bobl ddrwg.)
Dw i'n mynd i gael gwared â'r ddynoliaeth
oddi ar wyneb y ddaear,”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
4“Dw i'n mynd i daro Jerwsalem
a phawb sy'n byw yn Jwda.
Dw i am gael gwared ag addoli Baal
1:4 Baal Un o dduwiau Canaan.
yn llwyr,
a fydd neb yn cofio'r offeiriaid ffals ac anffyddlon.
5Dw i am gael gwared â'r rhai
sy'n addoli'r haul a'r lleuad a'r sêr o ben y toeau,
a'r rhai sy'n honni eu bod yn ffyddlon i'r Arglwydd
tra'n tyngu llw yn enw Milcom.
1:5 Milcom Un o dduwiau Ammon – 1 Brenhinoedd 11:5. Enw arall arno oedd Molech – 2 Brenhinoedd 23:10; Jeremeia 32:35

6A dw i am gael gwared â'r rhai
sydd wedi troi cefn arna i, yr Arglwydd,
a byth yn troi ata i am help nac arweiniad.”
7Ust! o flaen y Meistr, yr Arglwydd!
Mae dydd barn yr Arglwydd yn agos.
Mae'r Arglwydd wedi paratoi'r aberth,
ac wedi cysegru'r rhai mae'n eu gwahodd.
8“Ar ddiwrnod yr aberth mawr,” meddai'r Arglwydd,
“dw i'n mynd i gosbi swyddogion a theulu'r brenin,
a phawb sy'n gwisgo fel paganiaid.
1:8 gwisgo fel paganiaid Falle fod cyfeiriad yma at wisgoedd arbennig i addoli duwiau paganaidd – gw. 2 Brenhinoedd 10:22

9Ar y diwrnod hwnnw bydda i yn cosbi pawb
sy'n neidio dros y stepen drws,
1:9 neidio … drws Un o ofergoelion crefyddol y Philistiaid (gw. 1 Samuel 5:5).

ac yn llenwi palas eu meistr
gyda chyfoeth wedi ei ddwyn trwy drais a gormes.”
10“Ar y diwrnod hwnnw hefyd,” meddai'r Arglwydd,
“bydd sŵn gweiddi wrth Giât y Pysgod,
a sgrechian o ran newydd y ddinas h;
bydd twrw mawr yn dod o'r bryniau.
11Udwch, chi sy'n oedi yn y farchnad,
achos bydd y masnachwyr wedi mynd,
a'r rhai sy'n trin arian wedi eu taflu allan.
12Bryd hynny, bydda i'n chwilio drwy Jerwsalem gyda lampau,
ac yn cosbi'r rhai sy'n hunanfodlon a di-hid,
sy'n meddwl, ‘Fydd yr Arglwydd yn gwneud dim byd – na da na drwg.’
13Bydd eu heiddo'n cael ei ddwyn,
a'u tai yn cael eu chwalu.
Maen nhw'n adeiladu tai newydd,
ond gân nhw ddim byw ynddyn nhw.
Maen nhw'n plannu gwinllannoedd
ond gân nhw ddim yfed y gwin. i

14Mae dydd barn yr Arglwydd yn agos;

y dydd mawr – bydd yma'n fuan!
Bydd sŵn chwerw i'w glywed y diwrnod hwnnw;
sŵn milwyr cryf yn gweiddi crïo.
15Bydd yn ddydd i Dduw fod yn ddig.
Bydd yn ddiwrnod o helynt a gofid;
yn ddiwrnod o ddifrod a dinistr.
Bydd yn ddiwrnod tywyll ofnadwy;
diwrnod o gymylau duon bygythiol. j
16Bydd sŵn y corn hwrdd
1:16 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
, y bloeddio a'r brwydro
yn bygwth y trefi caerog a'r tyrau amddiffynnol.
17“Am bod y bobl wedi digio'r Arglwydd
bydda i'n achosi helbul iddyn nhw!
– byddan nhw ar goll fel pobl ddall.
Bydd eu gwaed yn cael ei dywallt fel llwch,
a'u perfeddion ar wasgar fel tail.
18Fydd arian ac aur ddim yn eu harbed nhw
ar y diwrnod pan fydd yr Arglwydd yn barnu.
Bydd ei ddicter fel tân yn difa'r ddaear.
Bydd dinistr llwyr a sydyn yn dod
ar bawb drwy'r byd i gyd.”
Copyright information for CYM